cartref
dafodil
 
 
 
 
LINCIAU
 
Dyma gyfeiriadur o raglenni difyr a defnyddiol sydd ar gael yn y Gymraeg ar gyfer eich cyfrifiadur.
www.meddal.com
 

Dyma becynnau gwerth eu cael ym mhob gweithle gan y byddan nhw’n arbed costau cyrsiau ac amser staff i chi gyflogwyr. Byddwch yn dysgu heb feddwl bron gan nad oes yma unrhyw bwysau o gwbl na neb yn eich gwthio ‘mlaen na neb yn sbecian dros eich hysgwydd!
Dr. Cen Williams, Cyfarwyddwr, Canolfan Bedwyr

www.bangor.ac.uk/ar/cb/cymraeg
/

 

Mae’n hawdd iawn eistedd yn hamddenol a dysgu wrth edrych ar y fideo, ac yna cwblhau’r tasgau a’r cwis ar y diwedd. Mae’n ffordd hawdd i ddysgu am gyfrifiaduron.
Sion Wyn Griffith/Jason Wynne Evans, Wyn 2

www.wyn2.com

 

Mae bod yn gyfarwydd â thechnoleg gwybodaeth yn sgil greiddiol i'r unfed ganrif ar hugain. Mae pecynnau hyfforddi Monitor Cymru yn cyfrannu darpariaeth wych i rychwant eang o anghenion hyfforddi mewn TGCh a datblygu adnoddau dynol. Gyda chymwysiadau amlwg mewn addysg a busnes, disgwyliaf y bydd y cynhyrchion yma yn cyfrannu'n helaeth a llwyddiannus i faes hyfforddi TGCh.
Gerallt Llewelyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn

www.mentermon.com

 

Mae deunydd Monitor Cymru yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n awyddus i godi lefel eu sgiliau technoleg gwybodaeth neu feistroli cymwysiadau anghyfarwydd. Ar gyfer y rhai sydd o bosibl yn mynychu dosbarthiadau ffurfiol mewn technoleg gwybodaeth, mae'r deunydd yn adnodd atodol gwerthfawr iawn, mawr ei angen yn y Gymraeg.
Delyth Murphy, Cydlynydd Academaidd,
Ysgol Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Cymru Bangor

www.bangor.ac.uk/ll/

 

Am wersi yn Saesneg

Monitor Wales

 
 
 

mouse

Ar gael 24/7


 
 
 
© 2006 Monitor Cymru
All Rights Reserved / Cedwir pob haw
Site – daDa